Cynadleddwyr
Yn mynd i ddigwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae’r holl wybodaeth hanfodol ar gael yma:
Cyrraedd Prifysgol Abertawe
Mae teithio i Abertawe ar gyfer cynhadledd neu ddigwyddiad yn hwylus dros ben. Mae ein dau gampws o fewn pellter hwylus o draffordd yr M4 sy’n golygu bod teithio yn y car yn gyfleus iawn. Ac mae teithio ar y trên yn ddidrafferth hefyd oherwydd y trenau rheolaidd sy’n teithio rhwng Llundain a Gorsaf Stryd Fawr Abertawe a lleoliadau ledled de Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am deithio i Brifysgol Abertawe ar gael yma.
Parcio ar Gampws Parc Singleton
I gynadleddwyr dydd sy’n dod i ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos ar Gampws Parc Singleton, mae ein dau brif faes parcio oddi ar y campws: tua dwy funud o gerdded i’r gorllewin o’r campws neu saith munud i’r dwyrain. Mae staff ar ddyletswydd yn y meysydd parcio rhwng 9am a 5pm a’r taliadau yw £3.50 y dydd i gerbydau gyrrwr yn unig neu £3.00 i yrwyr â theithwyr. Codir £2.00 fesul car am barcio ar ôl 1pm.
Ar benwythnosau, gyda’r hwyr ac ar gyfer cynadleddwyr 24 awr, mae parcio ar gael ar y campws*
Parcio ar Gampws y Bae
Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd parcio talu ac arddangos ar Gampws y Bae. Anogir ymwelwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth Parcio a Theithio ar Ffordd Fabian sy’n gweithredu gwasanaeth bws rheolaidd i Gampws y Bae. Cost y gwasanaeth yw£4.00 am hyd at bum person mewn un cerbyd.
Ar benwythnosau, gyda’r hwyr ac ar gyfer cynadleddwyr 24 awr, mae parcio ar gael ar y campws*
*Mae’n rhaid i gynadleddwyr preswyl sy’n cyrraeddcyn 4pm yn ystod yr wythnosbarcio yn un o’r meysydd parcio oddi ar y campws i’r dwyrain neu i’r gorllewin o’r campws.Caiff cynadleddwyr preswyl ddod â’u ceir ar y campwsar ôl 4pm a pharcio ym Maes Parcio 2 ar waelod y campws tan ddiwedd eu hymweliad.Mae’n rhaid casglu Hysbysiad Parcio Dros Dro o dderbynfa’r cynadleddwyr wrth gyrraedd a’i arddangos mewn man amlwg yn ffenestr blaen y car. Bydd trefnydd eich digwyddiad yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi am hyn.