Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Grwpiau a Chyrsiau

Mae grwpiau teithiau o hyd yn chwilio am y cyrchfan perffaith. A pha le gwell na Phrifysgol Abertawe i leoli eich ysgol haf, gwersyll astudio neu grŵp teithio?

Ar gyrion penrhyn Gŵyr godidog sy’n enwog am ei draethau a’i lwybrau cerdded, rydym yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer grwpiau sydd am gyfuno astudio mewn grŵp â gweithgareddau awyr agored a digwyddiadau adeiladu tîm.

Mae ein cyfleusterau cyfarfod hyblyg, ein llety fforddiadwy ar y safle, a’n lleoliad delfrydol yn golygu mai ni yw’r dewis perffaith ar gyfer ysgolion iaith, mudiadau cymunedol, cyrsiau maes a grwpiau ieuenctid sy’n dychwelyd i Abertawe haf ar ôl haf i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleusterau ar ein campws hwylus a’n lleoliad perffaith ar gyfer archwilio ac anturiaethau awyr agored.

“Rydym wedi bod yn dod i Brifysgol Abertawe ar gyfer yr ysgol haf Band Pres Rhyngwladol ers 2006. Rydym yn dewis Prifysgol Abertawe oherwydd bod popeth sydd ei angen arnom mewn un adeilad, waeth beth fo’r tywydd, mae popeth yma ac mae’r cyfleusterau’n wych. Mae Prifysgol Abertawe mor gyfleus i ni, dywedwn mai’r pethau pwysig yw’r haul, y môr a’r pres! Mae cael ein lleoli wrth yr arfordir yn ddelfrydol. Rydym yn ymarfer yn y bore ac yn y prynhawn mae gennym amser i archwilio Abertawe a Thre-gŵyr ac rydym wastad yn sicrhau ein bod yn cael hufen iâ – Rydym ni wrth ein bodd gyda Verdi’s, rydym yn cael Dydd Iau Verdi!” Band Pres Rhyngwladol