Swansea University Events and Hospitality

Swansea University is home to a range of first class conference and event spaces.

Plant mewn Angen ym Mhrifysgol Abertawe

Nos Wener ddiwethaf, roedd yn bleser mawr gan Brifysgol Abertawe ddarparu’r lleoliad i gynnal Sioe Apêl Plant mewn Angen y BBC.

Rhwng 6pm a 10pm, bu’r tenor a’r darlledwr o Gymru, Wynne Evans, yn cyflwyno Parti Mawr Cymreig Pudsey o Awditoriwm Syr Stanley Clarke yn ein Neuadd Fawr odidog ar Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi’r Bae.

Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y darllediad byw a chafwyd perfformiadau gan Wynne ei hun ynghyd â Baby Queens, Tenors of Rock, Jodi Bird a Chôr Plant mewn Angen.

Yn dilyn Sioe fyw’r Apêl nos Wener, darlledodd BBC One Cymru Barti Mawr Cymreig Pudsey nos Sadwrn 19 Tachwedd. Roedd y rhaglen yn cynnwys holl uchafbwyntiau noson yr Apêl, yn ogystal â chipolwg ar yr amrywiaeth cyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi bod yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe a ledled Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth yma